Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2024

Amser y cyfarfod: 13.00
 


194(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2024-25

(15 munud)

NDM8501 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2024-25 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac

c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.

</AI4>

<AI5>

4       Dadl: Cyllideb Derfynol 2024-25

(60 munud)

NDM8499 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Prif Weinidog ar 27 Chwefror 2024.

Dogfennau Ategol

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

</AI5>

<AI6>

5       Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2024-25

(60 munud)

NDM8500 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2024-25 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2024.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor oherwydd tanariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn glaw ar Lywodraeth Cymru, cyn y setliad llywodraeth leol nesaf:

a) i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru;

b) i weithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac

c) i’w gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd o fwy na 5 y cant yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol ac yn cael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.

</AI6>

<AI7>

6       Cyfnod pleidleisio

 

</AI7>

<AI8>

Ar ddiwedd y Cyfarfod Llawn bydd Pwyllgor o'r Senedd Gyfan yn ymgynnull i drafod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

Pwyllgor o'r Senedd Gyfan

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 6 Mawrth 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>